
ARTSCAPE – Clyweliad i Artistiaid, Ymarferwyr a Grwpiau a Chydweithfeydd Creadigol – Coedwig Hafren
Prosiect sy’n gweithio mewn 3 lleoliad awyr agored ym Mhowys yw ARTSCAPE. Bydd elfen De Powys prosiect ARTSCAPE yn cael ei chynnal yng nghymuned Aberhonddu, a’r nod yw sefydlu cymuned o deuluoedd a phobl ifanc i gyd-greu gwaith celf mewn cysylltiad â thri artist neu gydweithfa breswyl penodedig.
Bydd prosiect canol Powys yn digwydd yng nghoedwig Hafren gyda’r gymuned leol ac artistiaid lleol yn cyd-greu gwaith celf newydd.
Mae ARTSCAPE yn ceisio annog y gymuned leol i ymgysylltu trwy gelf mewn sgwrs greadigol ar lefel leol iawn ynghylch newid hinsawdd, yn ogystal ag iechyd a llesiant y bobl sy’n byw yn y sir. Ein nod yw ysgogi taith greadigol a chyflwyno gweledigaeth bositif ar gyfer dyfodol ym Mhowys lle rydym yn ymdrechu i fyw mewn cytgord â’n hamgylchedd mewn byd tecach.
Allwch chithau fel artist helpu i hwyluso a gweithredu gyda’r bwriad yma?
Beth allwch chi ei gynnig fel unigolyn creadigol i’n cymunedau lleol i’w hysgogi i roi sylw a thosturi a pherthynas tymor hir â Choedwig Hafren?
Rydym yn chwilio am 3 artist lleol/ymarferwr creadigol i annog y gymuned i ymgysylltu’n weithredol a dychmygu eu dyfodol o fewn terfynau angen ein planed, a mwynhau amgylchedd Coedwig hyfryd Hafren ar yr un pryd.
Cynghrair partneriaeth greadigol rhwng Gwasanaeth Celfyddydau a Diwylliant Cyngor Sir Powys, Cyfoeth Naturiol Cymru, Impelo, 4Pi Productions ac Articulture yw ARTSCAPE.
Gwahoddir ceisiadau gan arlunwyr, ymarferwyr neu gydweithfeydd creadigol sy’n byw neu’n gweithio ym Mhowys,
Lawrlwythwch y wybodaeth lawn trwy glicio yma – briff ARTSCAPE – Canol Powys
Dyddiad Terfyn ar gyfer cyflwyno Mynegiant o Ddiddordeb: 5pm, dydd Gwener 13 Awst 2021.