
CELFlun: Profiadau celf ar thema’r amgylchedd yn dod i Bowys
Bydd CELFlun sef prosiect sy’n creu profiadau a digwyddiadau celf creadigol cymunedol ac amgylcheddol yn dod i dri lleoliad ym Mhowys: Aberhonddu, Llandrindod a Choedwig Hafren ger Llanidloes.
Yn bartneriaeth greadigol rhwng Gwasanaeth Celf a Diwylliant Cyngor Sir Powys, Cyfoeth Naturiol Cymru, Impelo, 4Pi Productions ac Articulture, ariennir CELFlun gan Arwain, Rhaglen LEADER ym Mhowys, Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Sir Powys.
Mae Powys yn gymuned greadigol gyda brwdfrydedd dros yr amgylchedd a mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. Trwy weithio gydag artistiaid a pherfformwyr lleol, nod CELFlun yw cysylltu cymunedau Powys â’r amgylchedd trwy gyfres o brofiadau celf creadigol ffisegol a rhithwir.
Trwy gael ffordd o uno lles personol trigolion Powys â’r frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd, bydd y profiadau celf creadigol yn cymryd sawl ffordd, gan adlewyrchu natur amrywiol cymuned artistig Powys.
Yng Nghoedwig Hafren bydd yna berfformiad pypedwaith a gweithdai sy’n ymateb i newid yn yr hinsawdd. Bydd artist yn creu cerddoriaeth a dawns o synau a recordiwyd yn y goedwig, gydag un arall yn cael ei ysbrydoli gan ddal carbon (mae’r goedwig yn dal carbon a’i gadw allan o’r amgylchedd lle gall wneud niwed) a bydd yn gwneud darn symbolig o waith celf gyda siarcol.
Yn Llandrindod bydd cyfle i edrych ar ddawns a symud gan ganolbwyntio ar fioleg greadigol, gan ymateb i’r coetir ger y llyn sy’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
Yn Aberhonddu, ymateb i ardal Island Fields fydd dan sylw, gan weithio gyda’r gymuned ar symud ynghyd â gwneud printiau gan ddefnyddio deunydd naturiol a chreu patrymau mandala mawr. Hefyd bydd yna weithdai comedi stand-yp a chelf sain.
“Mae yna gysylltiad pendant rhwng creadigrwydd a llesiant,” esboniodd y Cynghorydd Rachel Powell, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys dros Ddiwylliant. “Mae hyd yn oed ychydig o greadigrwydd yn gallu ein helpu ni reoli ein emosiynau, cael atebion i broblemau a magu hyder. Mae hyn ynghyd ag effeithiau natur ar lesiant, yn gallu helpu gyda llesiant corfforol a meddyliol.
“Mae CELFlun, y prosiect celf a diwylliant hwn yn un cyffrous iawn. Trwy gyfuno creadigrwydd, lles, natur, yr hinsawdd a phlatfformau digidol, y nod yw codi ymwybyddiaeth o’r argyfwng newid yn yr hinsawdd a’i achosion wrth hefyd ddod â chymunedau Powys at ei gilydd a’u grymuso.
“Bydd nifer o’r gweithgareddau a’r profiadau creadigol yn cael eu rhannu ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol CELFlun i bawb eu mwynhau.”
Mae’r rhain yn cyd-fynd â Cop26, cynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar newid yn yr hinsawdd sy’n digwydd yn Glasgow rhwng 31 Hydref – 12 Tachwedd 2021 ac yn clymu â thema’r gynhadledd o gael atebion i newid yn yr hinsawdd sy’n seiliedig ar natur.