Glanio – Symud a Thrafodaeth ar Argyfwng Hinsawdd / 24th Oct.

Glanio – Symud a Thrafodaeth ar Argyfwng Hinsawdd / 24th Oct.

Amffitheatr Llandrindod
Dydd Sul 24ain 10 – 5
Ymunwch ag Artscape ar gyfer darganfod mwy am yr argyfwng hinsawdd.
Arweinir sesiynau symud er mwyn ein daearu.
I’w ddilyn gan drafodaethau ynghylch ein perthynas â’r amgylchedd, yn lleol ac yn fyd-eang.
Beth sy’n ein hysgogi?
Pa weithredoedd y dylem eu dwyn ymlaen i’r dyfodol?
Beth y dylid hepgor?
Beth sy’n ein cynnal?
Am bwy yr ydym yn gofalu?
Pryd y teimlwn ein bod yn cael ein gorlethu gan faint yr argyfwng?
Pryd a sut yr ydym yn teimlo’n obeithiol, yn hydwyth ac wedi ein grymuso?
Beth sy’n newid wrth i ni ddefnyddio geirfa wahanol i ymdrin â phethau?
Pa asianteithau sy’n gallu rhyddhau egni o’r tir?
Yn rhad ac am ddim, does dim rhaid archebu lle. Gwisgwch ddillad cynnes ar gyfer y
tywydd. Nid oes angen ymuno ag unrhyw symudiadau os nad ydych yn teimlo’n gyffyrddus
– gallwch ymuno yn y trafodaethau yn unig.