Coedwig Hafren / 6th-7th Tachwedd

Coedwig Hafren / 6th-7th Tachwedd

Tra bod Cop26 yn digwydd yn Glasgow, ar ddechrau mis Tachwedd 2021, mae ARTSCAPE yn dod ag ymarferwyr creadigol i goedwig Hafren, ger Llanidloes, er mwyn datblygu gweithiau celf sy’n ymateb i argyfwng hinsawdd.

Mae Camilla Saunders, cyfansoddwr, yn gweithio gyda’r dawnsiwr Sudestada Project, i greu gosodwaith sain a pherfformiad dawns sy’n plethu at ei gilydd seiniau a daliwyd yng Nghoedwig Hafren, dweud stori a lleisiau disgyblion o’r ysgol gynradd leol.

Mae Billie Ireland, arlunydd, yn creu gwaith celf symbolaidd ac yn claddu trysorau carbon, ynghyd â gwahodd pobl i ystyried posibilrwydd Biochar trwy arddangosfa fyw a sgyrisau a arweinir gan Tony Davies.

Fe fydd PuppetSoup yn cynnal gweithdai gwneud pypedau cymunedol o gwmpas Llanidloes a chreu llwybr o lwyfannau pypedau ar gyfer y cyhoedd i’w defnyddio yng Nghoedwig Hafren.

///// RHAGLEN /////

Sgwrs am Biochar
gyda Tony Davies, Maes Parcio
Dydd Sadwrn 6ed Dachwedd, 10.30yb & 2yp

Sgwrs ar Biochar ac Agoriad Ymateb i Biochar
gyda Tony Davies, Maes Parcio
Dydd Sul 7fed o Dachwedd, 10yb

Cyfle i Ymgysylltu
Gyda’r Artist Billie Ireland
Sydd wedi gwneud gwaith celf gyda charbon claddedig a choed wedi’u peintio.
Y Ddôl, Trwy’r Dydd.
Dydd Sadwrn 6ed, Dydd Sul 7fed.

Cysylltiadau Cudd
Gyda Camilla Saunders
15 munud o Berfformiadau Sain a Dawns
Taith Gerdded y Rhaeadrau, 11yb & 1yp
Dydd Sadwrn 6ed, Dydd Sul 7fed.

Pypedwaith y Goedwig
Cyfle i berfformio gyda phypedau wedi’u creu yng nghweithdai cymunedol PuppetSoup, ar nifer o ecolwyfannau. Maes Parcio, Taith Gerdded y Rhaeadrau, a’r Gysgodfan ar Daith Gerdded Tarddiad Afon Hafren, Trwy’r Dydd.
Dydd Sadwrn 6ed, Dydd Sul 7fed.

///// BYSIAU /////
Mae bysiau wedi’u trefnu er mwyn lleihau allyriadau carbon ac i’ch helpu i fynychu!
Archebwch eich tocyn bws am ddim yma:

Dydd Sadwrn 6ed o Dachwedd
Maes parcio Y Gro Llanidloes i Goedwig Hafren 9.30yb
Coedwig Hafren i’r Gro Llanidloes 12yp
Maes parcio Y Gro Llanidloes i Goedwig Hafren 12.30yp
Coedwig i’r Gro Llanidloes 3yp

Dydd Sul 7fed o Dachwedd
Maes parcio y Gro Llanidloes i Goedwig Hafren 9.30yb
Coedwig Hafren i’r Gro Llanidloes 12yp
Y Gro Llanidloes i Goedwig Hafren 12.30yp
Coedwig i’r Gro Llanidloes 3yp