
Glanio – Profiad allan o’r cyffredin mewn lle pob dydd! / 13th Nov.
Ymunwch â’r artistiaid Marla King, Clara Rust a Fin Jordao am daith gerdded ymdrochol o amgylch Llyn Llandrindod, wrth iddynt rannu symudiad coreograffyddol sy’n archwilio themau atgofion, colled a chysylltiad i’r lle ei hun.
Fe fydd dangosiad cyntaf o’r gwaith wedi’i amseru i gyd-ddigwydd â COP26, y gynhadledd ar newid hinsawdd sy’n digwydd yn Glasgow, gyda’r bwriad i gefnogi ymgysylltiad cyhoeddus â gweithred hinsawdd.
Mae’r ardal o gwmpas Llyn Llandrindod yn hyb gwerthfawr i natur a choetir wedi’i diogelu, lle y bwriada Glanio ein tywys yn ôl adref i’r coed gan ymdreiddio i fyd natur ein hunain.
Man cyfarfod ar gyfer y perfformiad cyntaf yn yr Amffitheatr, ger y llyn. Fe gewch fap i’w
ddilyn, wedi’i ddarlunio gan SuzyBee.
Fe allwch hefyd gasglu map o’r siop ger y llyn, neu oddi wrth Impelo, ac fe allwch ei ddilyn ar eich ben eich hun ar unrhyw amser er mwyn profi Glanio tu allan i’r perfformiadau.
Fe fydd sgôr gwreiddiol o’r sain ar gael i’w lawrlwytho o wefan Artscape wedi’r digwyddiad.