
Arhoswch Syllwch Gwelwch / 19eg o Dachwedd
Mae croeso cynnes i chi a’ch teuluoedd i ymuno â ni am siocled poeth i ddathlu lansiad swyddogol Arhoswch, Syllwch ac Edrychwch, gwaith celf newydd sydd wedi’i greu gan Gydweithfa Gelfyddydau Brycheiniog mewn cydweithrediad â theuluoedd yn Aberhonddu.
Dyluniwyd cyfres o deithiau cerdded natur a gweithgareddau chwarae creadigol gan Gydweithfa Gelfyddydau Brycheiniog ar safle Island Fields ac yn YÂ Gaer yn Aberhonddu, pryd y casglodd teuluoedd deunyddiau naturiol er mwyn ysbrydoli gweithgareddau celf.
Mae’r gweithiau celf hyn, sy’n cynnwys printio syanoteip, creu mandala a symudiad wedi’u
defnyddio i greu ffilm ddigidol newydd a ddangosir hyd y 30ain o Ragfyr 2021. Mae’r ffilm yn archwilio ein chwilfrydedd a’n diddordeb gyda’r byd naturiol ar gyfer pleser, creadigaeth
a lles.
Fe all teuluoedd sydd wedi gwneud printiau syanoteip gasglu eu gwaith celf o’r dderbynfa yn Y Gaer, Aberhonddu o’r 25ain o Dachwedd.
Gyda diolch arbennig i Siambr Fasnach Aberhonddu, Prosiectau Lumen Art ac y Gaer.