
Billie Ireland
Artist gweledol yw Billie Ireland gydag arfer sydd wedi’i wreiddio’n ddwfn mewn darganfyddiad, bregusrwydd, a natur.
Mae’n cael ei thynnu at ffurfiau creu sy’n ysbrydol, defodol ac aberthol, yn aml yn myfyrio ar nerth mamolaeth a chysylltiad at le.
Prosiect celf dros dro, sy’n arbenigol i’r lleoliad ac mewn tair rhan yw “Y Ffynhonnell”:
Taith i darddiad Afon Hafren oedd ‘Y Pererindod Troednoeth’, i gasglu samplau dŵr o fawnogydd Pumlumon. Roedd cerdded yn droednoeth yn galluogi Billie Ireland i uniaethu â’r fenywaidd gysegredig roedd hi’n gweld yn y dŵr, ynghyd â’r ffordd y defnyddiwyd y tir fel safle claddu.
Crëwyd ‘Y Cylchdro Carbon’ trwy fynd â choed oedd wedi cwympo o Goedwig Hafren, eu gwneud yn biochar, ac wedyn eu troi yn baent a’u gosod mewn sbiral i foncyff coeden marw. Mae’n ffurfio totem sy’n adlewyrchu cylch geni, bywyd a marwolaeth.
Roedd ‘Gwau Cysylltiad Carbon’ yn cynnwys y patrwm gwehyddiad Cymreig yn cael ei dorri i mewn i dywyrch mewn dôl yng Nghoedwig Hafren. Llenwyd hwn â biochar, fel symbol sy’n cysylltu lle a defnydd, a myfyrdod ar enciliad carbon.
Cysylltu: