
Glanio
Gwaith yw ‘Glanio’a gafodd ei ddyfeisio a’i ddatblyu gan Marla King, Fin Jordão a Clara Rust. Fe’i berfformiwyd yn gyntaf ger Llyn Llandrindod fel taith gerdded amgen, trwythol, gan ddefnyddio symudiad coreograffiaeth er mwyn archwilio themau o atgofion, colled a’r cysylltiad â lle. Dyfeisiwyd y perfformiad fel ymgynghoriad cyhoeddus gyda newid hinsawdd, gan archwilio’n cysylltiad cynhenid â natur a darganfod y posibiliadau a gynigir gan amryw ieithoedd. Amserwyd hwn i gyd-ddigwydd â phythefnos Cop26 yn ystod hydref 2021.
Ni fyddai ‘Glanio’ wedi gweld golau dydd heb: cyfieithiad Cymraeg creadigol gan Emyr Humphreys; sain a grëwyd gan Jim Somniac gan ddefnyddio samplau o sain benodol o wahanol safleoedd; gwisgoedd o ffynonellau gofalus ac wedi’u cydosod gan Tegan James; cefnogaeth creu a threfnu dawnsiau gan Cai Tomos; darluniau ar fap y llwybrau, arwyddion croeso a chau wedi’u creu gan Suzy Bee gan ddefnyddio paent clai ecogyfeillgar, papur ailgylchu a glud startsh tatws; dawnswyr ychwanegol arbennig o dda Jodie Evans a Bethan Cooper.
Awdur, biolegydd creadigol ac addysgwr ar ecoleg ddynol yw Fin Jordão, sy’n ceisio ennyn diddordeb cymdeithasol â sgyrsiau argyfyngus am ormodedd, gwastraff a lluosogrwydd gan ddefnyddio trosiadau materol.
Artist amlddisgyblaethol yw Clara Rust, sy’n arbenigo mewn ymarferion dawns a symudiad. Mae’n defnyddio dull holistig, gan ddefnyddio’r corff dynol, natur, profiad ac ymgysylltiad i greu ac arwain gweithdai. Mae Clara Rust hefyd yn rhan o Gydweithfa Gelf Brycheiniog.
Artist dawns llawrydd, cydweithredwr, eiriolwr dros gyfiawnder hinsawdd a phodlediwr yw Marla King. Mae’n gweithio ar groestoriad cyfiawnder hinsawdd a chymdeithasol, gan ymgorffori’r celfyddydau er mwyn addysgu ac archwilio cysylltiad natur mewn modd cynhwysol sy’n gweithio I fewnblannu cynaliadwyedd amgylcheddol.
Cysylltu:
Marla King
https://www.instagram.com/marla_k.d/
https://www.alittlebitoflagom.org/
Clara Rust
Bethan Cooper