
Matt Cook
Artist sain ac ymarferydd cymunedol yw Matt Cook, sy’n angerddol dros helpu pobl i sylwi a gwerthfawrogi eu hamgylchedd. Mae’n aml yn dechrau ei brosiectau wrth gerdded trwy’r tirwedd, gan ddefnyddio seiniau mae wedi’u casglu, siapiau a lliwiau er mwyn creu mapiau rhyngweithiol sonig-cinetig.
Crëwyd ‘Brecon Sound Forage’ gyda chyfres o ryngweithiadau â’r adaregydd Andrew King, Gwasanaeth Gwybodaeth Bioamrywiaeth dros Bowys a’r gweithwyr coed gwyrdd lleol, mewn ymateb i safle Island Fields yn Aberhonddu. Casglwyd cyfres o recordiau’r maes yn ystod Hydref 2021, ac mae’r gwaith hwn yn dathlu, archifo a beirniadu bioamrywiaeth Island Fields Aberhonddu. Gosodwyd Brecon Sound Forage yn y Gaer yn ystod pythefnos Cop26 yn hydref 2021, gan chwarae allan o’r blychau adar tu allan er mwyn creu sain ymdrwythol.
Cysylltu: