Mae a wnelo ARTSCAPE â chreu rhaglen gymunedol ar thema amgylcheddol a lleol o brofiadau, digwyddiadau ac achlysuron celfyddydau creadigol mewn lle ffisegol a digidol.

Cynghrair partneriaeth greadigol rhwng Gwasanaeth Celfyddydau a Diwylliant Cyngor Sir Powys, Cyfoeth Naturiol Cymru, Impelo, 4Pi Productions ac Articulture yw ARTSCAPE ac mae’n cynnwys ymarferwyr cyswllt a chymunedau lleol.

Ffurfiwyd y bartneriaeth i gysylltu’n ddychmygus â chymunedau er mwyn ysgogi ailgysylltedd, symbylu brwdfrydedd dros ofal amgylcheddol yn wyneb newid hinsawdd, a hybu llesiant pobl trwy brofiadau rhyng-gysylltiedig ym meysydd yr amgylchedd/lle.celf ddigidol.

Prosiect dan arweiniad Cyngor Sir Powys yw ARTSCAPE sy’n cael ei greu mewn partneriaeth gydweithredol â:

Add Your Heading Text Here
Add Your Heading Text Here

Awdurdod lleol ardal Powys, sef un o ardaloedd gweinyddol Cymru, yw Cyngor Sir Powys. Hwy yw partner arweiniol Artscape.

Mae Deddf yr Amgylchedd yn cyflwyno diben Newydd i Gyfoeth Naturiol Cymru – sef mynd ati i reoli adnoddau naturiol. Byddwn yn cymhwyso set benodol o egwyddorion ac ar yr un pryd yn cyfrannu cymaint ag y gallwn at y nodau llesiant.
CIC cofrestredig yw Articulture sy’n cefnogi datblygiad celf yn yr awyr agored sy’n arloesol ac o ansawdd uchel, gan greu cynulleidfaoedd amrywiol yng Nghymru. Mae’n cydweithio gyda rhychwant eang o ymarferwyr celf ac eraill er mwyn hyrwyddo ac arddangos amrywiaeth hynod celf yn yr awyr agored. Mae’n datblygu gwaith newydd, artistiaid, cynulleidfaoedd a rhwydweithiau, gan ddod o hyd i lwyfannau cenedlaethol a rhyngwladol ar gyfer Cymry creadigol. Cred Articulture fod celf yn yr awyr agored yn gallu annog cyfranogiad eang a phartneriaethau sydd yn fuddiol y naill i’r llall ar draws holl sectorau cymdeithas, gan arwain at gymunedau mwy cynaliadwy yng Nghymru.
Stiwdio creadigol sydd wedi ennill gwobrau yw 4Pi. Mae’n cyfuno technolegau newydd cryfion gyda dulliau storïol traws-gyfrwng, gan gynhyrchu profiadau trochiadol sy’n ceisio cyrraedd cynulleidfaoedd mewn dulliau newydd ac ymgysylltiol.
impelo logo
Sefydliad elusennol sy’n ceisio rhannu grym trawsnewidiol y ddawns â chynulleidfa mor eang â phosibl yw Impelo ac mae’n dod â phobl o bob oed a dull o fyw at ei gilydd mewn mynegiant llawen.