Pan ddigwyddodd Cop26 yn Glasgow, ar ddechrau mis Tachwedd 2021, fe ddaeth ARTSCAPE ag ymarferwyr creadigol i goedwig Hafren, ger Llanidloes, er mwyn datblygu gwaith celf sy’n ymateb i argyfwng hinsawdd.
Mae Camilla Saunders, cyfansoddwr, yn gweithio gyda’r dawnsiwr Sudestada Project, i greu gosodwaith sain a pherfformiad dawns sy’n plethu at ei gilydd seiniau a daliwyd yng Nghoedwig Hafren, dweud stori a lleisiau disgyblion o’r ysgol gynradd leol.
Mae Billie Ireland, arlunydd, yn creu gwaith celf symbolaidd ac yn claddu trysorau carbon, ynghyd â gwahodd pobl i ystyried posibilrwydd Biochar trwy arddangosfa fyw a sgyrisau a arweinir gan Tony Davies.
Fe fydd PuppetSoup yn cynnal gweithdai gwneud pypedau cymunedol o gwmpas Llanidloes a chreu llwybr o lwyfannau pypedau ar gyfer y cyhoedd i’w defnyddio yng Nghoedwig Hafren.