S

Aberhonddu

Pan ddigwyddodd Cop26 yn Glasgow, ar ddechrau mis Tachwedd 2021, fe ddaeth ARTSCAPE ag ymarferwyr creadigol i weithio gyda theuluoedd a phobl ifanc yn Aberhonddu, i ystyried yr effaith  Newid Hinsawdd ar Island Fields – ardal leol sy’n gyfoethog mewn bioamrywiaeth ond o dan fygythiad cynyddol llifogydd. 

Mae’r artist sain Matt Cook yn creu recordiau amlhaenog yn Island Fields gyda grŵp o gynhyrchwyr ifanc, ac yn gweithio ochr yn ochr â Chofnodwr Adar Powys, Andy King.

Mae Brecknock Arts Collective yn defnyddio celf, crefft a symudiad er mwyn cysylltu â thirwedd naturiol Island Fields – ac fe all wella lles pawb.